top of page
Search

Sut i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth

Ydych chi eisiau gwybodaeth am faint mae eich cyngor lleol wedi’i wario ar ymweliad brenhinol? Neu faint mae cynghorydd lleol yn ei wario ar deithio dramor? Neu beth am ba fuddiannau busnes y mae aelodau pwyllgor cynllunio’r awdurdod lleol wedi’u datgan? Mae’n hawdd cael mynediad at wybodaeth werthfawr a gedwir gan Lywodraethau Cymru neu’r Deyrnas Gyfunol, awdurdodau lleol, yr heddlu, neu gyrff cyhoeddus eraill trwy gais Rhyddid Gwybodaeth. Dilynwch y camau yma i gyflwyno eich cais Rhyddid Gwybodaeth gyda hyder:


Cam 01

Dod o hyd i’r adran o'r llywodraeth neu'r corff cyhoeddus perthnasol: nodwch pa endid sydd fwyaf tebygol o fod â'r wybodaeth sydd ei hangen arch. Gweinyddaieth, asiantaeth, neu sefydliad cyhoeddus - dewch o hyd i'r un iawn.


Cam 02

Creu cais Rhyddid Gwybodaeth clir: cymerwch amser i greu cais Rhyddid Gwybodaeth clir a phenodol. Byddwch yn gryno ac yn syml, gan nodi'n union pa wybodaeth yr ydych yn ei cheisio. Ychwanegwch fanylion perthnasol fel dyddiadau, enwau, neu leoliadau i helpu i gyfyngu'r chwiliad. Os ydych chi eisiau defnyddio templed, cliciwch yma.


Cam 03

Dod o hyd i'r cyswllt Rhyddid Gwybodaeth cywir: dewch o hyd i'r cyswllt Rhyddid Gwybodaeth swyddogol ar gyfer yr adran neu'r awdurdod a nodwyd. Er enghraifft, ewch i'w gwefan neu chwiliwch am "Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth" ar gov.uk. Sicrhewch fod eich cais yn cyrraedd y derbynnydd cywir.


Cam 04

Darparu manylion cyswllt a dewisiadau: dylech gynnwys eich enw, gwybodaeth gyswllt, a'r ffordd y byddai’n well gennych chi dderbyn ymateb. Rhowch wybod os yw'n well gennych ymateb trwy e-bost neu’r post. Bydd hyn o gymorth i sicrhau cyfathrebu effeithiol trwy gydol y broses.


Cam 05

Cyflwyno ac aros am ymateb: anfonwch eich cais Rhyddid Gwybodaeth at y cyswllt dynodedig gan defnyddio'r dull a ddarparwyd. Gwiriwch ddwywaith bod popeth yn glir ac yn gryno. Yna, arhoswch yn amyneddgar am ymateb o fewn yr amserlen o 20 diwrnod (gwaith) a ganiateir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cofiwch, er bod y camau yma yn ganllaw, edrychwch ar ganllawiau a gweithdrefnau penodol a amlinellir gan yr adran neu’r corff cyhoeddus perthnasol. Bydd dilyn y broses gywir o gymorth i sicrhau bod eich cais Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei drin yn llwyddiannus ac yn effeithlon.


 

Templad


[Eich Enw]

[Eich Cyfeiriad]

[Cod post]

[Cyfeiriad ebost]

[Rhif ffôn]

[Dyddiad]


Swyddog Rhyddid Gwybodaeth

[Enw'r Awdurdod Cyhoeddus]

[Cyfeiriad yr Awdurdod Cyhoeddus]

[Cod post]


Testun: Cais am Wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000


Annwyl Syr/Madam,


Ysgrifennaf i ofyn am wybodaeth o dan ddarpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Credaf fod y wybodaeth yr wyf yn ei cheisio ym meddiant eich awdurdod, a gofynnaf ichi roi'r manylion canlynol i mi:


1. [Nodwch yr wybodaeth yr ydych yn ei cheisio mor fanwl â phosibl.]

2. [Os yw'n berthnasol, cynhwyswch bwyntiau gwybodaeth ychwanegol yr ydych yn eu ceisio.]

Deallaf, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod gennyf hawl i gael gwybod a ydych yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani ac i gael y wybodaeth honno wedi’i darparu i mi o fewn 20 diwrnod (gwaith). Os yw’r wybodaeth yn cael ei chadw ond ei bod yn dod o dan unrhyw eithriadau yn y Ddeddf, gofynnaf yn garedig i chi ddarparu esboniad ysgrifenedig o pam mae’r wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu.


Byddai’n well gennyf dderbyn y wybodaeth drwy e-bost. Os codir tâl am unrhyw reswm am ddarparu’r wybodaeth, rhowch wybod i mi ymlaen llaw a rhowch esboniad o’r costau cysylltiedig.

Ystyriwch y cyfathrebiad hwn fel cais ffurfiol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a chadarnhewch eich bod wedi derbyn y llythyr hwn os gwelwch ynh dda.

Os oes angen unrhyw eglurhad pellach arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch fy nghais, mae croeso i chi gysylltu â mi gan ddefnyddio'r manylion a ddarperir uchod.


Diolch i chi am eich sylw ar y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb prydlon.

Yn gywir,


[Eich Enw]


bottom of page