1pm, 22 Mehefin 2024
Cwrdd o 11am ym Mharc Caerfyrddin gyda'r Orymdaith yn cychwyn am 1pm.
Digwyddiad Facebook - https://www.facebook.com/events/298917296571017/
MERCHED BECA YN YSBRYDOLIAETH
“Gan ymgorffori dewrder ac ysbryd Merched Beca, rydym yn gwahodd holl gefnogwyr annibyniaeth i ymuno â ni ar 22 Mehefin ar gyfer Gorymdaith Annibyniaeth yng Nghaerfyrddin! Byddwn yn ymgynnull ym Mharc Caerfyrddin am 11am, gyda'r orymdaith yn dechrau am 1pm. Dewch â'ch posteri, baneri a drymiau—dewch â'ch angerdd, eich teulu, a'ch ffrindiau. Gadewch i ni sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed wrth i ni orymdeithio gyda’n gilydd ‘pawb dan un faner’ dros ddyfodol gwell i bawb sy’n byw yng Nghymru” Darllen mwy ar wefan YesCymru.
LLWYBR YR ORYMDAITH / MAP
PARC CAERFYRDDIN (SA31 3AX) > Lôn Morfa > Heol y Gwyddau > Heol y Sgubor > Heol Ioan > Lle Cambria > Heol y Capel > Heol Awst > Lôn Morfa > PARC CAERFYRDDIN.
Bydd y llwybr yn dilyn y ffordd fawr yn bennaf. Bydd rhan fach mewn ardal cerddwyr ond mae'r palmant yn gostwng i uchder y ffordd wrth fynd i mewn ac allan o'r ardal, felly mae'r llwybr yn hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau.
RALI ANNIBYNIAETH - Yn dilyn yr Orymdaith
Yn dilyn yr orymdaith bydd Rali ym Mharc Caerfyrddin, yn dechrau o tua 2pm, gyda llwyfan a sgrin fawr, siaradwyr a cherddoriaeth.
Beth Winter
Bethany Davies
Cefin Campbell
Dafydd Iwan
Gwynoro Jones
Hefin Wyn
Mari Mathias a Gwilym Bowen Rhys
Mererid Hopwood
SUT I GYRRAEDD
Rydym yn annog pawb i gyrraedd Caerfyrddin erbyn 12pm, ac i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus os yn bosibl. Mae gorsafoedd trenau a bysiau Caerfyrddin, sydd wedi nodi ar y map uchod, o fewn pellter cerdded i Barc Caerfyrddin.
BWS YESCYMRU O'R GOGLEDD-ORLLEWIN - Mae YesCymru wedi trefnu bws o Langefni, sy'n galw ym Mangor, Caernarfon, Gellilydan, Dolgellau a Machynlleth. Mae tocynnau ar gael yma.
BYSIAU CYHOEDDUS - Mae gwybodaeth lawn ar gael trwy gynlluniwr taith traveline.cymru.
TRENAU - Rydym wedi hysbysu Trafnidiaeth Cymru o ddyddiad ac amseriad yr orymdaith, ond efallai y byddai’n syniad da archebu ymlaen llaw a chymryd trên mor gynnar â phosibl. Mae gwybodaeth lawn ar gael trwy gynlluniwr taith traveline.cymru.
GYRRU - Bydd yr orymdaith yn dechrau ac yn gorffen ym Mharc Caerfyrddin (SA31 3AX). Rydym wedi cynnwys rhai o'r meysydd parcio agosaf ar y map uchod. Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin i gael gwybodaeth am leoliadau parcio a phrisiau yng Nghaerfyrddin.
ADLONIANT
GIG CYN YR ORYMDAITH - 8pm, Nos Wener 21/06/24. CWRW, Caerfyrddin.
Mae tocynnau ar gael ymlaen llaw am £6.60 yn unig (yn cynnwys ffioedd) - https://www.gigantic.com/los-blancos-tickets/camarthen-cwrw/2024-06-21-19-00
GIG WEDI'R ORYMDAITH - 6pm, Nos Sadwrn 22/06/24. Boar's Head, Caerfyrddin.
Yn rhad ac am ddim os oes lle!
MARCHNAD ANNIBYNIAETH
Dod yn fuan!
Comments