top of page
Search

Gorymdaith dros Annibyniaeth - Abertawe

1pm, 20 Mai 2023 - ABERTAWE Cychwyn yn Stryd y Gwynt, a gorffen yn Y Glannau.


Anogir gorymdeithwyr i gyfarfod o 12pm ddydd Sadwrn 20 Mai yn Stryd y Gwynt Abertawe gyda'r orymdaith yn gadael yn brydlon am 1pm.

 

DARLLEDIAD BYW O'R RALI

 

LLWYBR YR ORYMDAITH

Stryd y Gwynt > Stryd y Castell > Stryd y Coleg > Ffordd y Brenin > Stryd Dillwyn > Stryd Rhydychen > Sgwâr y Santes Fair > Ffordd y Dywysoges > Y Glannau. Cyfanswm pellter: 1.80 km (1.10 milltir)


RALI ANNIBYNIAETH - Yn dilyn yr Orymdaith

Yn dilyn yr orymdaith bydd Rali ar Barc Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn dechrau o tua 2pm, gyda llwyfan a sgrin fawr, siaradwyr a cherddoriaeth. Y siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau hyd yma yw:

  • Mike Parker - Awdur

  • Liz Saville-Roberts AS - Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan

  • Anthony Slaughter - Arweinydd Plaid Werdd Cymru

  • Naomi Hughes - YesCymru

  • Mirain Angharad Owen - Cymdeithas yr iaith

  • Cllr Rachel Garrick - Labour for Indy

  • Robin McAlpine - Ymgyrchydd o’r Alban


MARCHNAD ANNIBYNIAETH

Cynhelir Marchnad Annibyniaeth unwaith eto gan YesCymru ar ddiwrnod yr Orymdaith yn Abertawe. Bydd y stondinau ar agor o 10am-4pm ar Barc Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 20 Mai 2023. Bydd yr orymdaith ei hun yn dechrau am 1pm o Stryd y Gwynt.


DIGWYDDIADAU YMYLOL

  • Noson Werin, Barddoniaeth a Hwyl (YesAbertawe), 7pm-11pm, Nos Wener 19/05, Volcano.

  • All Cymru fforddio peidio bod yn annibynnol? (Melin Drafod), 7.30pm, Nos Wener 19/05, TÅ· Tawe - Am ddim / £5.53.

  • Marchnad Annibyniaeth (YesCymru), 10am-4pm, Dydd Sadwrn 20/05, Parc Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

  • Trafodaeth Banel ar Dlodi (YesAbertawe), 3.30pm-4.45pm, Dydd Sadwrn 20/05, Volcano Theatre - Am ddim / Cyfraniadau.

  • Comedy gyda Noel James a Ffrindiau, 4pm-5pm, Dydd Sadwrn 20/05, Schooner Inn - Am ddim / Cyfraniadau.

  • Creu Cymru Rydd, Werdd, Gymraeg (Cymdeithas yr Iaith), 4pm-5pm, Dydd Sadwrn 20/05, TÅ· Tawe - Am ddim / Cyfraniadau.

  • Cerddi dros Annibyniaeth (Red Poets), 3pm-5pm, Dydd Sadwrn 20/05, No Sign Bar - Am ddim / Cyfraniadau.

  • Sesiwn Werinol, 5pm-7pm, Dydd Sadwrn 20/05, The Queens - Am ddim.


GWYBODAETH HYGYRCHEDD


BYSIAU I'R ORYMDAITH

Mae YesCymru yn trefnu bysiau i'r Orymdaith dros Annibyniaeth yn Abertawe ar 20 Mai. Tocynnau ar gael o Siop arlein YesCymru - yes.cymru/shop


GWERTHFAWROGWN UNRHYW GYFRANIADAU

Rydym yn anelu at godi £3,000 tuag at bob Gorymdaith. Cyfrannwch beth bynnag y gallwch os gwelwch yn dda. ​ Mae'r Gorymdeithiau dros Annibyniaeth hefyd yn cael eu hariannu'n hael gan YesCymru.

g

bottom of page