top of page
Search

Gorymdaith Annibyniaeth - Bangor

1pm, 23 Medi 2023 - BANGOR

Cychwyn a gorffen ym Maes Parcio Glanrafon.

Cwrdd o 11am-12pm gyda'r orymdaith yn gadael yn brydlon am 1pm.

 

FFRWD BYW O'R RALI

 

MAP O LEOLIADAU PWYSIG


LLWYBR YR ORYMDAITH

Bydd yr orymdaith yn cerdded ar hyd Stryd Fawr Bangor, gan droi at Ffordd Glynne cyn troi unwaith eto i Ffordd Deiniol ac yn ôl tuag at Faes Parcio Glanrafon.


RALI ANNIBYNIAETH - Yn Dilyn yr Orymdaith

Yn dilyn yr orymdaith bydd Rali ym Maes Parcio Glanrafon yn cychwyn o tua 2pm, gyda llwyfan a sgrin fawr, siaradwyr a cherddoriaeth.

  • Rhun ap Iorwerth

  • Sera Cracroft

  • Joseph Gnagbo

  • Karen Wynne

  • Bryn Fôn

  • Fleur De Lys

  • + Mwy


MARCHNAD ANNIBYNIAETH

Nepell i Faes Parcio Glanrafon, cynhelir “Marchnad Annibyniaeth” rhwng 10am a 4pm ar yr Hen Lain Fowlio. Bydd yn ofod ar gyfer ymgysylltu a chefnogi cymunedol gyda sefydliadau a mudiadau a chrefftwyr a chynhyrchwyr lleol.


GIG ANNIBYNIAETH

Bydd y dathlu yn parhau gyda’r hwyr mewn “Gig Annibyniaeth” yn Theatr Bryn Terfel, Pontio. Yno bydd cyfle i wylio rhai o fandiau gorau Cymru gan gynnwys Fleur De Lys, Tara Bandito, 3 Hwr Doeth a Maes Parcio, a’r noson yn atseinio themâu’r dydd. Cliciwch yma i brynu tocyn.


DIGWYDDIADAU FFRINJ

  • Prynhawn o Ganu Gwerin: Dewch â’ch offerynnau neu eich lleisiau canu i Dafarn y Glôb yn dilyn yr orymdaith am brynhawn o ganu gwerin. Byddwn yn cynhesu ein lleisiau canu rhwng 3pm a 5pm cyn y gig fawr gyda’r nos.

  • Sgwrs Banel Hawl i Holi YesCymru: Dewch draw i Neuadd y Penrhyn, Bangor am 7.30yh noswyl yr orymdaith am sgwrs banel ddifyr. Bydd ein panel o wleidyddion ac arbenigwyr yn trafod hunaniaeth, cartrefi a chymunedoli. Cadeirydd - Menna Jones (Cyn Brif Weithredwr Antur Waunfawr), Catrin Wager (Plaid Cymru), Adam Turner (Y Blaid Werdd), Walis George (Cyn Brif Weithredwr Tai Eryri ac ymgyrchydd dros Ddeddf Eiddo), Grant Paisley (arbenigwr ynni adnewyddol a dad-garboneiddio cymunedol), Menna Machraeth (ymgyrchydd Iaith).

GWERSYLLA DROS ANNIBYNIAETH

Mae maes Gwersylla a Charafanau Treborth wedi ei ddynodi yn wersyll dros annibyniaeth ar benwythnos yr orymdaith fawr ar 23 Medi. Os oes gennych babell, carafán neu fan ac awydd gwersylla, cysylltwch â Jimmy ar 07803 611429 a rhowch wybod iddo eich bod yn mynychu’r orymdaith i gael gostyngiad o 10% ar y pris.


CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS


BYSIAU I'R ORYMDAITH

Mae YesCymru yn trefnu bysiau i'r Orymdaith dros Annibyniaeth ym Mangor gyda thocynnau ar gael drwy Siop YesCymru.


GWERTHFAWROGWN UNRHYW GYFRANIADAU

Rydym yn anelu at godi £3,000 tuag at bob Gorymdaith. Cyfrannwch beth bynnag y gallwch os gwelwch yn dda. ​ Mae'r Gorymdeithiau dros Annibyniaeth hefyd yn cael eu hariannu'n hael gan YesCymru.


bottom of page