top of page
Search

Sut Mae Gwneud Taflen

Mae taflenni yn ffordd wych o hysbysebu digwyddiad, i ledaenu neges, ac i dynnu sylw at achos. Nid oes rhaid iddo fod yn waith anodd i wneud taflen wych - dilynwch y camau hyn!


Cam 01

Dewiswch raglen i ddylunio eich taflen. Mae yna lawer o ddewis (a llawer am ddim) - fe allech chi ddefnyddio Canva, Word neu PowerPoint, Google Slides neu hyd yn oed Microsoft Paint! Bydd rhai yn cynnwys templedi, ond gydag eraill bydd angen i chi ddechrau gyda thudalen wag!


Cam 02

Penderfynwch pwy yw eich cynulleidfa darged - byddwch chi am sicrhau fod eich taflen yn apelio'n fawr at y grŵp hwn, felly crëwch hi'n benodol ar eu cyfer.


Cam 03

Ewch ati i ddylunio! Mae gan daflenni gwych ychydig o bethau yn gyffredin. Mae ganddyn nhw:

  1. Teitl neu bennawd clir, sy'n ei gwneud hi'n amlwg ar unwaith beth yw pwrpas y daflen.

  2. Neges hawdd ei deall, gyda’r holl wybodaeth berthnasol (e.e., dyddiad, amser, lleoliad), mewn iaith syml, heb ormod o destun.

  3. Dyluniad da - delweddau trawiadol (clir, mewn ffocws a heb eu picselu) a digon o ofod gwyn (gwag).

  4. Galwad clir i weithredu - beth ydych chi am i bobl ei wneud ar ôl iddynt ddarllen eich taflen? Dod i ddigwyddiad? Cofrestru? Gwnewch yn glir!

Cam 04

Dewiswch argraffwr! Eto mae llawer o opsiynau yma - ar-lein (e.e., Vistaprint), eich siop argraffu leol neu lyfrgell (cefnogwch yn lleol!) neu hyd yn oed eich argraffydd lliw eich hun!


Cam 05

Penderfynwch sut i'w ddosbarthu. Meddyliwch eto am eich cynulleidfa darged - ble maen nhw'n mynd, ble fyddan nhw? Gall dosbarthu taflenni yn ystod oriau brig neu mewn digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth weithio'n dda, yn ogystal â'u postio o ddrws i ddrws. A pheidiwch â diystyru gadael pentwr mewn siop, caffi neu ganolfan gymunedol gyfeillgar.

Yorumlar


bottom of page